Mae’r Eglwys Babyddol yn wynebu mwy o gyhuddiadau am guddio achosion o gam-drin plant – y tro hwn yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r Fatican yn cael ei gyhuddo o beidio â gweithredu yn sgil cwynion o gam-drin 200 o fechgyn gyda phroblemau clywed.
Dywed adroddiadau yn y wasg yn America fod achos yn erbyn offeiriad, Lawrence Murphy, wedi dod i ben ar ôl iddo ddweud ei fod yn sâl. Roedd dau archesgob wedi cwyno amdano.
Dyma’r diweddaraf mewn rhestr o gyhuddiadau yn ymwneud â chuddio achosion o gam-drin plant gan offeiriaid yr Eglwys Babyddol.