Mae angen dileu’r gwasanaeth awyr rhwng y de a’r gogledd meddai’r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn sgil y newydd fod y cwmni teithiau awyr wedi mynd i’r wal.
Mae Highland Airways sy’n rhedeg teithiau awyren o’r Fali yn Ynys Môn i Gaerdydd yn nwylo’r gweinyddwyr ac mae pob taith wedi ei chanslo.
“Nawr yw’r amser i roi’r gorau i hyn cyn i fwy o arian cyhoeddus gael ei golli wrth gynnal y gwasanaeth,” meddai arweinydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd Kirsty Williams sy’n galw am fuddsoddi mewn dulliau trafnidiaeth gwyrdd.
Llywodraeth Cymru am “gynnal y gwasanaeth hanfodol”
Mae’r cwmni wedi wynebu trafferthion ers tro ac fe ddywedodd llefarydd “fod nifer sylweddol o ddiswyddiadau yn anorfod.”
Roedd gan y cwmni gytundeb gwerth £800,000 y flwyddyn i redeg y gwasanaeth ar ran Llywodraeth y Cynulliad – cytundeb oedd yn dirwyn i ben ym mis Mai.
“Unwaith y byddwn yn gwybod beth yw cynlluniau Highland Airways fe fyddwn ni’n cymryd y camau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y gwasanaeth hanfodol yma,” meddai llefarydd.
Y mis yma roedd y Llywodraeth wedi ailgychwyn proses tendro ar gyfer cytundeb newydd ar ol i’r ymgais gyntaf fethu â denu bidiau oedd yn cwrdd â’r gofynion.