Ddeng mlynedd ar hugain ers iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf, mae’r grŵp Ail Symudiad yn ôl yn y stiwdio yn recordio albym newydd.

Pan gafodd y gân ‘Whisgi a Soda’ ei chyhoeddi yn 1980, dau frawd o Aberteifi oedd asgwrn cefn y band Ail Symudiad – Richard Jones y canwr/gitarydd a Wyn Jones ar y bâs.

Dros y blynyddoedd mae llu o aelodau wedi mynd a dod, ac erbyn hyn mae dau frawd arall o Aberteifi yn rhan o’r band.

Mae Osian a Dafydd Jones yn feibion i Richard y canwr, y naill yn drymio a’r llall ar y gitâr.

“Rydyn ni eisiau dathlu tri deg mlynedd ers rhyddhau’r sengl gyntaf, a hefyd i gael rhywbeth newydd allan yna. Mae e mor syml â hynny,” meddai Richard Jones yn ei gyfweliad cyntaf erioed gyda chylchgrawn Golwg.

Cofio’r dyddiau cynnar

Wrth brocio cof y canwr am y dyddiau cynnar yn ymarfer yn festri Tabernacl Aberteifi, mae’n amlwg fod tri degawd o hanes Ail Symudiad yn destun llyfr diddorol.

Daeth gig cynta’r band fis Mai 1979 yn Aberteifi – yr un noson ag enillodd y postman Terry Griffiths bencampwriaeth snwcer y byd.

“Rwy’n cofio fe’n dda iawn. Roedd y gig yn rhan o wythnos carnifal y dref, ac roedden ni’n nerfus ofnadwy,” meddai Richard Jones, oedd yn 23 oed ar y pryd, a’i frawd Wyn yn 19.

Cewch ddarllen yr erthygl yn llawn yn Golwg, Mawrth 24