Mae Network Rail yn disgwyl i undebau osod dyddiadau streic heddiw er gwaethaf trafodaethau parhaus i geisio datrys y cwerylau dros swyddi ac arferion gwaith.

Fe gafodd trafodaethau am gynlluniau’r cwmni i dorri 1,500 o swyddi cynnal a chadw eu cynnal yr wythnos hon.

Ond, fe ddaeth trafodaethau rhwng Network Rail, Undeb Rheilffordd, Mor a Thrafnidiaeth a’r TSSA – (Undeb i bobl yn y sector trafnidiaeth) i ben neithiwr – heb gytundeb.

Fe ddywedodd Llefarydd ar ran Network Rail:

“Mae Network Rail wedi ymrwymo i geisio datrys y mater. Mae ein drws ni wastad ar agor i drafodaethau pellach.”

Ond, mae’r cwmni’n disgwyl i ddyddiadau streic gael eu cyhoeddi heddiw. Mae streic yn debygol o achosi problemau i’r cwmni dros gyfnod y Pasg.

Dywedodd llefarydd Network Rail: “Bydd Network Rail yn gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau’r drafferth i deithwyr.”