Mae cwmni Highland Airways sy’n rhedeg teithiau awyren o’r Fali yn Ynys Môn i Gaerdydd wedi mynd i’r wal.
Cafwyd cadarnhad fod y cwmni sy’n arbenigo mewn teithiau rhwng ynysoedd pellennig yr Alban a’r tir mawr mynd i ddwylo gweinyddwyr neithiwr.
Mae holl deithiau’r cwmni wedi eu canslo ers bore heddiw.
Maen nhw’n gofyn ar i unrhyw un sydd eisoes wedi prynu tocyn teithio i ffonio’u cwmni cerdyn credyd neu fanc i ofyn am ad-daliad.
Llywodraeth Cymru am “gynnal y gwasanaeth hanfodol”
Mae’r cwmni wedi wynebu trafferthion ers tro ac fe ddywedodd llefarydd “fod nifer sylweddol o ddiswyddiadau yn anorfod.”
Roedd gan y cwmni gytundeb gwerth £800,000 y flwyddyn i redeg y gwasanaeth ar ran Llywodraeth y Cynulliad – cytundeb oedd yn dirwyn i ben ym mis Mai.
“Unwaith y byddwn yn gwybod beth yw cynlluniau Highland Airways fe fyddwn ni’n cymryd y camau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y gwasanaeth hanfodol yma,” meddai llefarydd.
Y mis yma roedd y Llywodraeth wedi ailgychwyn proses tendro ar gyfer cytundeb newydd ar ol i’r ymgais gyntaf fethu â denu bidiau oedd yn cwrdd â’r gofynion.