Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno i roi chwarter miliwn o bunnau i Ardd Botaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.

Fe fydd yr arian yn dod gyda phecyn cymorth ariannol byrdymor pellach i helpu’r Ardd ar ôl iddyn nhw brofi anawsterau yn ystod 2010.

Yn dilyn hyn, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cadarnhau y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i sefyllfa ariannol yr ardd.

“Wrth wneud y penderfyniad hwn, mae’r Llywodraeth wedi cydnabod yr angen i adolygu materion ariannol yr Ardd, ei rhagolygon arian yn y dyfodol, a’i threfniadau llywodraethu,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd yr adolygiad yn dechrau’n fuan a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod yr haf.