Yn ei gyfrol farddoniaeth ddiweddaraf mae’r Prifardd Donald Evans yn mynd i’r afael â’r “pwnc pwysicaf erioed” yn ei olwg ef – sef y ddaear, byd natur a’r pridd.

Cân o foliant i’r Fam Ddaear yw ei gasgliad cerddi diweddaraf ‘Cartre’n y Cread’ a gafodd eu hysbrydoli gan gyntefigrwydd natur.

“Mae’n bwnc peryglus” meddai un o brifeirdd prin y ‘Dwbwl Dwbwl’ wrth Golwg360.

“Mae’n hawdd mynd i bregethu’n wyddonol a chrefyddol. Ond, ffordd o osgoi hyn oedd canu cerddi moliant i’r fam ddaear… Delweddu godidowgrwydd a bendith y byd ydan ni’n byw ynddo,” meddai.


Y ddaear yn ‘amddiffyn ei hunan’

“Yr unig beth sydd gan ddyn y tu hwnt i’r bedd yw’r byd,” meddai’r prifardd sy’n byw yn Nhalgarreg, tafliad carreg o Fanc Siôn Cwilt a’r fferm lle cafodd ei fagu yn Esgair Onwy Fawr.

“Mae’r ddaear yn hunangynhaliol ac mae ganddi bwerau arswydus. Ond, mae’r blaned yn glyfar tu hwnt. Mae ganddi synhwyrau main ac mae hi wedi bod yn amyneddgar hyd yn hyn.

“Ond, os ydi’r llygru a’r twymo’n parhau – heb ymdrech i’w leihau – mae’r blaned yn mynd i gael digon ac yn mynd i amddiffyn ei hunain.”

’Cerddi eglur’

Un o’r pethau a wnaeth ei ysbrydoli i ysgrifennu’r gyfrol oedd rhaglen wyddonol “bythgofiadwy” Dr Ian Stuart, The Living Earth.

Mae ei ddatganiad “pellgyrhaeddol a mawr” wrth gloi’r rhaglen yn “crisialu’r gyfrol barddoniaeth 80 tudalen” ac wedi’i “serio ar ei gof” meddai’r Prifardd.

“In the conflict between man and the planet, there will be only one loser and it won’t be the planet,” meddai.

“Y byd cyntefig ydi sylfaen fy nghariad i at natur,” meddai Donald Evans sy’n dweud bod y gyfrol hon yn gwbl wahanol i’r 12 arall.

“Mae’r cerddi’n ddealladwy ac yn eglur. Ond, hoffwn deimlo bod dyfnder einioes a chyntefigrwydd y blaned ynddynt hefyd.”

Fe enillodd Donald Evans y Goron a’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1977, cyn cyflawni’r un gamp ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw ym 1980.