Mae’r cynllun i adeiladu darn o waith celf gyhoeddus mewn afon yn Aberteifi wedi cael ei atal yn sgîl gwrthwynebiad mawr lleol.

Roedd Aberteifi yn un o saith safle ar draws gwledydd Prydain oedd yn cymryd rhan ar raglen Big Art Project, Channel 4.

Roedd yr arlunydd Rafael Lozano-Hemmer wedi cynllunio darn o waith o’r enw ‘Turbulence’, a fyddai wedi golygu gosod 127 boi efo goleuadau a seinyddion ynddyn nhw, yn yr afon.

Ond daeth i’r amlwg yn fuan fod gwrthwynebiad mawr lleol, ac yn ôl y BBC, roedd 4,400 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r cynllun.

Yn ogystal, roedd pleidlais dros y ffôn hefyd wedi awgrymu fod mwy o bobol leol yn gwrthwynebu nac oedd yn cefnogi’r cynllun.

Roedd dadleuon yn erbyn datblygu’r gwaith yn cynnwys pryderon y byddai’n cael effaith wael ar fyd natur, tra bod eraill yn credu ei fod yn wastraff arian.

Roedd y sawl oedd yn cefnogi’r cynllun wedi tynnu sylw i’r ffaith y gallai ‘Turbulence’ fod wedi denu mwy o arian gan Lywodraeth y Cynulliad i adfywio’r dref, yn ogystal â’r ffyniant i fusnesau, a allai fod wedi digwydd yn sgîl cynnydd mewn ymwelwyr.