Wrth i undeb y gweithwyr sifil, y PCS baratoi i streicio eto yfory, mae Prif Weinidog Cymru wedi cyfaddef bod rhaid cael ateb buan i’r anghydfod neu fe fydd cwestiynau’n codi am hygrededd y Cynulliad.

Mae gweithwyr y PCS yn streicio gan fod y Llywodraeth ganolog yn bygwth newid telerau eu cytundebau gan greu setliad gwaeth iddynt pe baent yn cael eu gwneud yn ddi-waith.

Gwrthododd aelodau Clymblaid Llafur-Plaid Cymru groesi’r llinell biced pan streiciodd y PCS ar Fawrth 8 a 9.

Wrth i’r PCS baratoi i streicio yfory mae’r Llywodraeth yn bwriadu trafod holl fusnes y Llywodraeth yn y sesiwn lawn heddiw gan wrthod croesi’r llinell biced yfory.

Ond dywedodd y Prif Weinidog ei fod o’n cydnabod nad oes modd cario mlaen yn y modd yma.

“Y broblem yw os oes yna lot fawr o streiciau, mae’n mynd i’w wneud e’n anodd esbonio’r sefyllfa i’r cyhoedd ac felly bydden i’n gobeithio y byddai’r sefyllfa’n cael ei datrys cyn gynted ag sy’n bosibl,” meddai Carwyn Jones wrth ymateb i gwestiynau wythnosol y wasg yn y Cynulliad.

“D’yn ni ddim yn mynd i golli gwaith wrth gwrs. Dyna sy’n bwysig. Bydd gwaith y llywodraeth yn cael ei gyflawni heddiw a byddwn ni’n eistedd yn hwyr heno ac wrth gwrs bydd sawl Gweinidog yn y Llywodraeth yn gweithio fory.”

Mae disgwyl i hyd at chwarter miliwn o weithwyr sifil streicio ledled Gwledydd Prydain yfory, y streic gyntaf o’i bath ar ddiwrnod y gyllideb.

Fe fydd gweithwyr carchardai, staff y Ganolfan Byd Gwaith, gweithwyr treth, gweithwyr pasportau, swyddogion llys, gweithwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ac arholwyr arholiadau gyrru ar streic.


Galw ar ACau i roi’r gorau i gyflog

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, na ddylai ACau Llafur a Plaid Cymru hawlio cyflog os nad oedden nhw’n mynd i groesi’r llinell biced.

“Mae’n hawdd i ACau Llafur a Plaid Cymru ganslo busnes y Cynulliad ond bydd pobol yn disgwyl iddyn nhw beidio a cael eu talu os ydyn nhw’n gwrthod croesi’r piced,” meddai.

“Fe fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau gyda’u gwaith yn ystod y streic.”