Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor ar fin caiacio drwy Nepal er mwyn codi arian ar gyfer Tîm Achub Mynydd Ogwen.

Fe fydd Joe Kendall o Lincoln, Sam Clegg o Kendal a Rich Kemble o Milton Keynes yn mynd i Nepal am dair wythnos i godi arian ar gyfer y Tîm Achub.

Mae’r trip yn cael ei noddi gan ‘Pyranha Kayaks.’ Maen nhw hefyd wedi rhoi cychod ac offer i’r tîm.

Y daith

“Mi fyddan ni yn treulio tair wythnos yn teithio trwy Nepal ar ein caiacau.
Rydan ni’n gobeithio padlo mewn afonydd anodd fel y Kali Gandaki, Bhote Kosi a Tamba Kosi,” meddai Joe Kendall.

Fe ddaeth y syniad tra roedd y myfyrwyr yn mwynhau noson allan yn y dafarn.

“Fel grŵp, mae gennym lawer o brofiad o gaiacio ar draws y byd a gan ein bod yn byw yng Ngogledd Cymru rydym yn cael digon o gyfle i ymarfer,” meddai Joe Kendell.

“Rydw i hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael caiacio o gwmpas Prydain yn ogystal â mynd ar deithiau i Ffrainc, Swistir, Yr Almaen, Awstria a Thwrci.

“Mi wnes i hefyd fynd i gaiacio yn Uganda am fis haf diwethaf.”