Fe fydd gwesty pum seren gwerth £60 miliwn yn cael ei adeiladu ym Mae Caerdydd.

Y gwesty 200 ystafell a 127m (tua 32 llawr) o uchder fydd adeilad uchaf Cymru a gwesty uchaf Prydain.

Bydd y cyfan yn cael ei adeiladu ar safle’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol gan grŵp Gwesty Wyndham a Bayscape Cyf.

Yn ogystal â’r 200 ystafell, fe fydd 35 fflat moethus yn cael eu hadeiladu ar loriau uchaf y tŵr yn ogystal â bar a chaffi iechyd.

Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau ddiwedd y flwyddyn.

“Carreg filltir”

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman, bod “adeilad uchaf Cymru yn garreg filltir arall i Gaerdydd ac yn ychwanegiad trawiadol at Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.”

“Rwy’n falch iawn bod Wyndham wedi dewis Caerdydd ar gyfer y datblygiad pwysig. Unwaith eto, mae’n dangos fod prifddinas Cymru yn lle dymunol i gwmnïau byd-enwog fuddsoddi eu harian, hyd yn oed yn ystod yr amseroedd economaidd anoddaf.”

Pentref Chwaraeon Caerdydd yn un o’r prosiectau adfywio mwyaf ym Mhrydain.