Dyw arian ddim yn ddigon i wneud rhywun yn hapus – mae’n rhaid i’ch cymdogion a’ch ffrindiau fod yn dlawd, yn ôl Prifysgol Caerdydd.
Mae’n rhaid i bobl weld a theimlo’u bod nhw’n cael mwy o gyflog na’u ffrindiau a’u cydweithwyr er mwyn bod yn hapus, meddai’r ymchwil.
Roedd yr ymchwilwyr o Gaerdydd a Phrifysgol Warwick yn ceisio esbonio pam nad yw pobl mewn gwledydd cyfoethog yn hapusach.
Er gwaetha’r twf economaidd sydd wedi arwain at gynnydd mewn incwm cyfartalog ers 40 mlynedd, mae pobol yr un mor ddigalon ag erioed.
Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad fod gan foddhad gysylltiad cryf ag incwm person o’i gymharu â phobl o’r un rhyw, oed, lefel addysg, neu ardal ddaearyddol.
‘Miliwn o bunnoedd’ … ddim yn ddigon!
‘Dyw ennill miliwn o bunnoedd y flwyddyn ddim yn ddigon i wneud rhywun yn hapus os ydi ei ffrindiau’n ennill dwy filiwn y flwyddyn, meddai Chris Boyce o adran seicoleg Prifysgol Warwick.
Mae canlyniadau’r ymchwiliad yn egluro pam na fyddai gwneud pawb mewn cymdeithas yn gyfoethocach yn arwain at gynnydd mewn hapusrwydd.