Fe fydd peilotiaid cwmni awyrennau Lufthansa yn cynnal streic bedwar diwrnod y mis nesaf, ar ôl methu â dod i gytundeb gyda’r cwmni ynglyn â chyflogau ac amodau gwaith.
Mae’r undeb Cockpit wedi cyhoeddi y bydd y gweithredu diwydiannol yn digwydd rhwng Ebrill 13 ac 16, wedi i drafodaethau gyda chwmni mwya’r Almaen ddiweddu’n “ddi-ganlyniad”.
Aros tan yr ôl y Pasg
Yn ôl Cockpit, mae peilotiaid wedi dewis peidio â gweithredu yr ochr yma i wyliau’r Pasg, er mwyn osgoi effeithio’n ormodol ar y cyhoedd – ac, medden nhw, er mwyn rhoi cyfle i Lufthansa ail-feddwl.
Fe fu’r peilotiaid ar streic y mis diwethaf. Ond fe aethon nhw’n ôl i’r gwaith cyn diwedd y pedwar diwrnod, gydag addewid y byddai’r trafodaethau yn ail-ddechrau.