Mae un o arweinydd streicwyr cwmni hedfan BA wedi gwneud apêl newydd heddiw am fwy o drafod – gyda’r bwriad o ddod â’r anghydfod i ben.
Mae Tony Woodley, Cyd Arweinydd Undeb Unite hefyd wedi cyhuddo’r cwmni o geisio newid cyflogau ac amodau gwaith staff.
Wrth annerch gweithwyr streic y cwmni mewn rali ar gae pêl-droed ger maes awyr Heathrow heddiw, fe feirniadodd BA yn hallt am wario arian ar gynlluniau wrth-gefn i ddelio gyda’r streic, yn hytrach na cheisio datrys y cweryl.
Mae Tony Woodley yn galw ar Gadeirydd BA ac aelodau “synhwyrol” bwrdd y cwmni i ymyrryd yn y trafodaethau.