Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi galw am sefydlu Cyngor a fydd yn penderfynu pryd a sut y dylid torri’n ôl ar ddyledion gwledydd Prydain.

Heddiw, fe rybuddiodd y byddai reiats tebyg i’r rhai yng ngwlad Groeg, ynghyd â streiciau, petai’r llywodraeth a fyddai wedi ei hethol gyda mwyfrif bychan i San Steffan ar ôl yr etholiad cyffredinol eleni, yn penderfynu gorfodi ei syniadau hi ar weddill y wlad.
Yn ôl Nick Clegg, dylai’r Cyngor ar Ddyledion gynnwys llefarwyr economaidd o bob un o’r tair prif blaid – Alistair Darling, George Osborne a Vince Cable – ochr yn ochr â Llywodraethwr Banc Lloegr a phennaeth awdurdod yr FSA.

Problem fawr

“Mae maint y broblem yn gofyn am ffordd wahanol o wneud penderfyniadau ynglyn â sut i’w datrys,” meddai Nick Clegg, tra’n siarad yn y Farchnad Stoc y bore yma.

“Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o wneud penderfyniadau sy’n golygu fod gwleidyddion yn rhoi eu buddiannau eu hunain i’r naill ochr ac yn meddwl am yr hyn sydd o fudd i’r wlad.”