Mae arlywydd Affganistan wedi cyfarfod â gwrthryfelwyr, yn y gobaith y gallan nhw ddod i ddeall ei gilydd.

Mae llywodraeth Hamid Karzai hefyd yn awgrymu eu bod yn agos at gwblhau cynllun i ddenu a pherswadio gwrthryfelwyr i roi’r gorau i drais.

Fe wrthododd llefarydd ar ran Karzai gadarnhau fod y cyfarfod rhwng yr arlywydd a grwp Hizb-i-Islami wedi digwydd. Doedd e chwaith ddim yn fodlon rhannu manylion yr hyn gafodd ei drafod.

Ond arweinydd y grwp yn y trafodaethau yw Qutbudin Halal, a fu’n Ddirprwy Brif Weinidog i’r Arlywydd Burhanuddin Rabbani yn y 1990au.

Grwp yn siarad

Mae swyddogion y grwp, sydd ag ymladdwyr yn gweithredu yng ngogledd ac yn nwyrain y wlad, yn fodlon siarad.

Maen nhw’n honni eu bod nhw wedi mynd at y bwrdd gyda chynllun heddwch 15-pwynt sy’n galw ar i filwyr tramor adael y wlad o fewn chwe mis, gan ddechrau ym mis Gorffennaf eleni.

Mae’r cynllun hefyd yn galw ar i’r senedd bresennol yn Affganistan barhau â’i gwaith tan ddiwedd y flwyddyn. Wedi hynny, fe fydden nhw am weld llywodraeth dros-dro, neu shura, yn cynnal etholiad cenedlaethol ymhen blwyddyn.

Maen nhw hefyd yn galw am gyfansoddiad newydd i’r wlad.