Mae nifer y gorsafoedd petrol bach yng ngwledydd Prydain yn is nac erioed o’r blaen, yn ôl ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.
Mae llai na chwarter y garejus bach oedd yn bodoli yn y 1960au hwyr yn dal i fynd, yn ôl y Sefydliad Ynni.
Gyda’r nifer sy’n berchen ceir yn parhau i gynyddu, mae n rhaid i bob garej fach bellach gyflenwi ar gyfer 3,795 o gerbydau, ar gyfartaledd.
Er bod nifer y garejys petrol bychan wedi codi yn 2008, mae’r cyfanswm wedi mynd i lawr o 9,283 yn 2008 i 9,013 erbyn diwedd 2009 o’i gymharu â 39,958 Yn 1967.
Y ffigyrau
Dyma’r sefyllfa ar ddiwedd 2009, yn ôl ystadegau y Sefydliad Ynni:
• Fe wnaeth gwerthiant petrol gyrraedd 16.29 miliwn o dunelli – cwymp o 383,000 tunnell o’i gymharu â diwedd 2008
• Roedd gwerthiant diesel wedi cwympo 217,000 tunnell i 12.65 miliwn tunnell
• Roedd cyfanswm gwerthiant tanwydd wedi gostwng i ychydig dros 37 miliwn tunnell – gostyngiad o 901,000 o dunelli o’i gymharu â 2008
• Y pum cwmni mwyaf yw BP (1,179 blaengwrt), Texaco (999), Shell (930), Esso (900), a Total (818)