Mae esgob Cristnogol wedi annog pobol yn ei esgobaeth i beidio â phleidleisio i blaid dde eithafol y BNP yn yr etholiad cyffredinol.
Yn ôl y Gwir Barchedig Steven Cottrell, Esgob Reading – sydd wedi’i enwi fel Esgob nesaf ardal Essex a Dwyrain Llundain – mae’n rhaid i’r llais Cristnogol fynd yn groes i leisiau hiliol.
Pan fydd yn cymryd awenau ei swydd newydd, fe fydd yn gwasanaethu’r ail esgobaeth fwyaf poblog yng ngwledydd Prydain. Dyna pam, meddai, bod yn rhaid i bobol ymarfer eu hawl i bleidleisio, er nad oes ganddyn nhw, efallai, hyder yn y sustem wleidyddol.
Amrywiaeth
“
Rwy’n credu mai’r neges Gristnogol yma yw ein bod ni’n dymuno byw mewn byd sy’n cynnig gwahaniaeth ac amrywiaeth,” meddai Steven Cottrell.
“Mae amrywiaeth ein cymunedau yn Nwyrain Llundain ac Essex yn fendith. Mae’n rhywbeth i’w ddathlu, nid i’w ofni.
Llun: Nick Griffin, arweinydd y BNP
“Rydw i’n gobeithio y bydd Cristnogion yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â gwleidyddiaeth y BNP, sy’n canolbwyntio ar hil.”