Mae milwr Prydeinig wedi ei ladd heddiw mewn ffrwydriad yn Sangin, rhanbarth Helmand, Affganistan.
Roedd yn aelod o 3ydd Bataliwn y Reifflwyr. Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Yn ôl llefarydd ar ran Tasglu Helman, roedd y milwr ar batrol ac yn croesi pont pan gafodd ei ladd gan ffrwydryn IED (improvised explosive device).
Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau nad oedd y milwr yn rhan o ymgyrch ddiweddara’ Moshtarak, sy’n targedu’r Taliban yn eu cadarnleoedd yn Helmand.
Mae cyfanswm o 276 o filwyr Prydeinig wedi cael eu lladd yn Affganistan ers dechrau ymladd yno yn 2001.