Mae’r golffiwr Rhys Davies wedi codi 40 safle yn rhestr detholion y byd ar ôl ennill Tlws Hassan ym Morocco ddoe.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y golffiwr o Ben-y-bont ar y Daith Ewropeaidd.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Davies yn symud i fyny i safle 81 yn y byd.

Ennill o ddwy ergyd

Fe enillodd y Cymro’r gystadleuaeth ar gwrs golff Royal Des Es Salam o ddwy ergyd. Yr ail yn y gystadleuaeth oedd Louis Oosthuizen.

“Rwy’ i ychydig ar goll ar hyn o bryd – mae’n gwbwl swrreal,” meddai Rhys Davies.

“Ro’n ni’n teimlo fy mod i’n gallu pytio pob pêl, a fy mod i mewn rheolaeth o fy swing hefyd.”


Cymro Cwpan Ryder

Fe fydd Cymru’n cynnal y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd ym mis Hydref eleni, a Rhys Davies yw’r unig Gymro ymhlith cant uchaf y byd ar hyn o bryd.

Ond er gwaethaf llwyddiant diweddar y Cymro, dyw Davies ddim yn canolbwyntio ar y Celtic Manor eto.

“Mae hynny yn bell iawn ar hyn o bryd,” meddai. “Dyma fy muddugoliaeth gynta’ – mae’n arbennig iawn ac rwy’n gobeithio mai hon fydd y gyntaf o lawer.”