Mae gwasanaeth awyr yr Eidal, Alitalia, wedi canslo neu ohirio teithiau ar draws y wlad oherwydd streic bedair awr gan beilotiaid, gweithwyr awyren a’r rheiny sy’n handlo bagiau.

Mae undebau’n dweud bod y streic bedair awr rhwng 11 a 3 heddiw hefyd yn cynnwys y cwmni awyrennau llai, Meridiana Fly, ond mae’r cwmni hwnnw’n mynnu na fydd yr un daith yn cael ei heffeithio gan y gweithredu diwydiannol.

Achos y gynnen

Mae undebau peilotiaid a gweithwyr awyrennau yn dweud eu bod yn protestio’n erbyn cynlluniau i ail-strwythuro.

Mae’r gweithwyr sy’n handlo bagiau, ar y llaw arall, yn cwyno fod y cyflogwyr wedi gwrthod trafod cytundebau newydd gyda nhw, a hynny ar ôl dwy flynedd.

Canslo

Mae Alitalia wedi cyhoeddi ei fod yn gohirio neu ganslo “nifer” o deithiau o ganlyniad i’r streic.