Mae cyn-weinidog llywodraeth sydd yng nghanol y ffrae tros daliadau am lobïo, wedi gofyn i’r Senedd ymchwilio i’w ymddygiad.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Stephen Byers, wedi dweud nad oes ganddo ddim byd i’w guddio, a dyna pam ei fod wedi gofyn i gael ei ymchwilio a’i archwilio’n llawn. Mae’n credu y byddai hynny’n clirio ei enw.

Daw hyn wrth i bwysau gynyddu ar ôl honiadau fod cyn-weinidogion y llywodraeth Lafur wedi cynnig defnyddio’u dylanwad a’u cysylltiadau yn San Steffan yn gyfnewid am arian.

“Rwy’n hyderus y bydd John Lyon yn cadarnhau fy mod i wedi cydymffurfio â Chôd Ymddygiad Aelodau Seneddol ac wedi datgelu fy muddiannau allanol yn llawn,” meddai Stephen Byers.

“Codi cwestiynau pellach”

Ond, mae arweinydd y Torïaid, David Cameron, yn dweud fod yr achos yn codi cwestiynau pellach.

“Mae’r rhain yn gyhuddiadau brawychus,” meddai. “Yn gyntaf oll, mae angen i Dŷ’r Cyffredin gynnal ymchwiliad trylwyr i’r cyn-weinidogion Llafur hyn.

“Ond hefyd, fe fydd angen i’r Prif Weinidog fynd at wraidd y cyhuddiadau sy’n cael eu gwneud am ei lywodraeth.”