Mae’r llywodraeth wedi cyflogi’r ddigrifwraig Ruby Wax i helpu hyfforddi staff y Swyddfa Gartref.
Mae’r gyflwynwraig liwgar a chegog eisoes wedi cynnal gweithdai sgiliau arwain a chyfathrebu ar gyfer gweithwyr suful.
“Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymroi i roi’r hyfforddiant gorau i’w staff, tra’n gwneud y mwyaf o’r arian sydd ar gael hefyd,” meddai llefarydd.
“Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gynorthwyo’r staff hŷn, mwyaf profiadol, i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r cyhoedd. Ein prif nod yw gweithio gyda’n gilydd i edrych ar ôl y cyhoedd.”
Americanes
Fe wnaeth Ruby Wax ei henw yng ngwledydd Prydain fel digrifwraig a chyflwynydd teledu. Ers rhai blynyddoedd, mae hi wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd yn cynnal sesiynau arwain.
Ond fe hyfforddodd ym maes seicrotherapi a niwrowyddoniaeth.
Mae ei gwefan yn tynnu sylw at ei chwarter canrif o brofiad cyfweld i gwmnïau amrywiol fel Skype, Deutsche Bank a’r Swyddfa Gartref.
Madonna
Mae gweithdai Ruby Wax i staff y Swyddfa Gartref wedi cynnwys defnyddio clipiau o gyfweliadau gyda Madonna, ynghyd ag ymarferion sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng siarad â rhywun a’u cyfweld.
Mae’r rheiny sydd ar y cyrsiau’n cael eu dysgu i fod yn ymwybodol o’u cydweithwyr, eu cleientiaid a’u partneriaid, gan ddefnyddio hiwmor, gonestrwydd a sgiliau uniaethu.
Codi cwestiwn
“Ar adeg pan mae arian cyhoeddus yn brin, dw i’n siwr nad oes angen cyflogi selebs i hyfforddi gweision suful,” meddai’r Democrat Rhyddfrydol, Chris Huhne wrth bapur newydd The Times.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd y trethdalwr yn chwerthin… oni bai bod digrifwyr Americanaidd yn gallu gwneud y Swyddfa Gartref yn lle mwy effeithiol.”