Mae undebau llafur yn Ffrainc yn protestio yr wythnos hon yn erbyn polisïau yr arlywydd, Nicolas Sarkozy, yn ymwneud â swyddi a’r economi.
Mae streiciau yn bygwth amharu ar wasanaethau trên, trafnidiaeth gyhoeddus, ysgolion ac unedau gofal dydd .
Mae protestiadau wedi eu trefnu mewn o leia’ 70 o ddinasoedd fory (dydd Mawrth), gyda’r fwyaf wedi ei threfnu gan yr undeb CGT ym Mharis.
Dim atebion
A hithau’n gyfnod o ddirwasgiad, mae’r undebau’n honni nad ydi llywodraeth geidwadol Mr Sarkozy wedi cynnig digon o atebion i broblemau swyddi, cyflogau ac amodau gwaith.
Mae’r undebau hefyd yn gobeithio ymladd bwriad y llywodraeth i ad-drefnu pensiynau.
Mwy yn anfodlon
Mae athrawon yn protestio tros dorri’n ôl ar swyddi, ac mae gweithwyr canolfannau dydd yn anhapus gyda chynllun ail-strwythuro.