Mae undeb Unite wedi apelio ar i Gadeirydd BA ymyrryd i ddatrys streic y gweithwyr caban.

Yn ôl cyd Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Tony Woodley, mae angen i “aelodau synhwyrol” o Fwrdd y cwmni ddefnyddio eu dylanwad.

Ar ganol ail ddiwrnod streic dridiau’r undeb, mae hi wedi mynd yn frwydr o gyhuddiadau a phropaganda rhwng y ddwy ochr.

Roedd Tony Woodley’n cyhuddo Prif Weithredwr BA, Willie Walsh, o fod ag agwedd “macho” at reoli.

Mae hefyd yn cyhuddo’r cwmni o “sbin” wrth honni bod cannoedd o aelodau’r undeb wedi torri’r streic.

Yn ôl Tony Woodley, dim ond naw sydd wedi gwneud hynny, gyda tuag 80 arall gartref yn sâl.

“Dw i’n awr yn apelio ar Gadeirydd BA ac aelodau synhwyrol o’r Bwrdd i ddefnyddio eu dylanwad, i roi teithwyr yn gynta ac i ddod yn ôl at y bwrdd trafod er lles pawb,” meddai.

“Mae’n hollol amlwg nad yw’r streic yma o fudd i neb. Mae angen trafod cytundeb.”

Llun: Terminal BA ym maes awyr Heathrow heddiw (Gwifren PA)