Caerdydd 3 Watford 1
Fe lwyddodd Caerdydd i gynnal eu hymdrech i gyrraedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth.
Trwy ennill 3-1 yn erbyn Watford, fe wnaethon nhw bellhau oddi wrth y timau oddi tanyn nhw, gan ledu’r bwlch i bum pwynt.
Roedden nhw ar y blaen ar yr hanner o 1-0 trwy gôl gan Ross McCormack ac fe ddaeth dwy arall yn yr ail hanner trwy Chris Burke a’r prif sgoriwr Peter Whittingham.
Gyda Coventry City a Leicester City yn rhannu’r pwyntiau yn eu gêm nhw, roedd yn golygu bod pob un o’u cystadleuwyr nhw wedi cael gêm gyfartal dros y Sul.
Roedd y canlyniad hwnnw hefyd yn newyddion da i Abertawe – er bod y tîm o Gaerlŷr wedi codi uwch eu pennau nhw, dim ond ar wahaniaeth goliau y mae hynny.
Ond mae Caerdydd hefyd ar eu gwartha – dim ond tri phwynt sydd rhwng y ddau glwb o Gymru ac mae gan Gaerdydd un gêm ychwanegol i’w chwarae.
Llun: Ross McCormack – sgoriwr cynta Caerdydd