Fe gafodd pobol oedrannus ym Morgannwg eu rhybuddio i fod yn ofalus ar ôl i ddynion dieithr dwyllo’u ffordd i mewn i gartref gwraig 83 oed.

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd dau ddyn wedi cymryd arnyn’ i fod yn weithwyr cyngor er mwyn mynd i mewn i dŷ’r wraig ym Mhontyclun ger Llantrisant.

Eu hesgus oedd bod angen edrych ar y sinc yn y gegin ond mae’r heddlu’n credu eu bod wedi bod trwy weddill y tŷ hefyd ond dydyn nhw ddim yn siŵr eto beth gafodd ei ddwyn.

Mae’r heddlu wedi rhoi disgrifiad o’r ddau ddyn gwyn, ill dau o faint canolig.

• Roedd un rhwng 30 a 40 oed, tua 5’8” ac yn gwisgo oferôls llwyd neu las.

• Roedd y llall rhwng 20 a 30, yn fyrrach, ac yn gwisgo jîns a siaced weithio.

Yn ôl yr heddlu, fe ddylai pobol oedrannus ddilyn Côd Carreg y Drws sy’n argymell gofyn am dystiolaeth o pwy yw dieithriaid sy’n dod at y drws – gan ofyn iddyn nhw roi’r wybodaeth trwy’r twll llythyrau yn hytrach nag agor y drws.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ym Mhontyclun gysylltu â Heddlu’r De ar 101 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.