Mae un o aelodau seneddol mainc gefn mwya’ dylanwadol Cymru wedi cefnogi galwadau i gyfyngu ar allu gweinidogion i werthu eu dylanwad.

Fe ddatgelodd Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, ei fod wedi rhoi cyfweliad i’r rhaglen deledu Dispatches, sy’n honni dal cyn weinidog Cabinet yn cynnig cymryd arian am ddylanwadu ar benderfyniadau.

Roedd yr AS, sy’n enwog am ymladd yn erbyn camddefnydd grym, wedi rhoi tystiolaeth hefyd i’r ymchwiliad i lwfansau seneddol, yn rhybuddio am beryglon camddefnydd dylanwad.

Roedd yn poeni’n arbennig am allu cyn weinidogion a gweision sifil i gael eu talu gan gwmnïau preifat am weithredu ar eu rhan yn y meysydd lle’r oedden nhw’n arfer gweithio.

‘Potensial o lygredd – neu waeth’

“Mae yna bryder ynglŷn â’r rhyddid sydd i bobol symud yn ôl ac ymlaen rhwng swyddi mewn diwydiant, ar un llaw, ac, ar y llall, swyddi yn y Llywodraeth neu’r gwasanaeth sifil lle gallan nhw wneud lles i’r diwydiant hwnnw,” meddai.

Yn achos gweinidogion, roedd yn honni eu bod nhw’n gallu defnyddio’r cysylltiadau a wnaethon nhw yn eu cyfnod mewn grym er mwyn ffafrio cwmnïau preifat.

“Mewn geiriau eraill, mae’r trefniadau presennol yn caniatáu prynu dylanwad ASau (ac Arglwydd) – gyda’r potensial o lygredd neu waeth.”

Roedd hefyd yn ymosod ar y cyn gadfridogion sydd wedi ymosod ar y Prif Weinidog tros wario ar amddiffyn – mae nifer ohonyn nhw, meddai Paul Flynn, bellach yn gweithio i gwmnïau arfau.