Mae gweithwyr caban BA wedi dechrau ar eu streic dri diwrnod, gyda’r berthynas rhwng y cwmni ac undeb Unite yn waeth nag erioed.
Ychydig oriau cyn i’r streic ddechrau, roedd gweithwyr signal undeb rheilffordd yr RMT wedi pleidleisio tros streic trwy wledydd Prydain – y gynta’ ar y trenau ers 16 mlynedd.
Fel gweithwyr BA, maen nhw’n anhapus am newid mewn telerau a chyflogau wrth i drefniadau gwaith newydd gael eu cyflwyno.
Mae’r Ceidwadwyr yn ceisio defnyddio’r ddau anghydfod i awgrymu bod y Llywodraeth yn dechrau ar “wanwyn anfodlon” – yn debyg i ‘winter of discontent’ 1979.
Fe fydd arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, yn cyhuddo’r Prif Weinidog o beryglu miloedd o swyddi oherwydd bod Llafur ym mhoced undeb Unite.
Trafodaethau’n methu
Fe fethodd y trafodaethau munud ola’ rhwng yr undeb a’r cwmni ac fe gyhoeddodd Prif Weithredwr British Airways, Willie Walsh, neges fideo’n ymddiheuro’n bersonol i deithwyr.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi dyfyniadau gan deithwyr yn condemnio’r streic.
O’r ochr arall, mae’r undeb wedi cyhuddo rheolwyr BA o fod eisiau “rhyfel” yn erbyn y gweithwyr.
Maen nhw’n honni bod y cwmni eisiau torri ar safonau gwasanaeth a chreu timau newydd o weithwyr caban gyda thelerau salach.
Mil o deithiau
Mae tu a1,00 o deithiau BA wedi cael eu canslo ond mae’r cwmni’n gobeithio cario 65% o’r teithwyr sydd wedi archebu lle.
Maen nhw’n gobeithio y bydd rhai o’r staff yn torri’r streic ac, yn ogystal â recriwtio gwirfoddolwyr i wneud y gwaith, mae’r cwmni wedi llogi 23 o awyrennau gan gwmnïau eraill.