Cymru dan-20 30 – 22 Yr Eidal dan-20

Daeth tîm dan-20 Cymru a’u hymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad i ben mewn modd buddugoliaethus, wrth guro’r Eidal ym Mharc yr Arfau heno.

Er i’r Cymry ifanc edrych yn weddol gyfforddus am y mwyafrif o’r gêm, methu a manteisio ar y meddiant a thiriogaeth oedd eu hanes am gyfnodau hir. Yn wir, roedd y canlyniad yn edrych i fod yn y fantol ar un pryd yn yr ail hanner, wrth i’r Eidalwyr ddod a’r sgôr yn ôl i 16 – 15.

Wedi dechrau da gan y Cymry, sgoriodd canolwr cydnerth y Scarlets, Scott Williams gais tua canol yr hanner cyntaf. Ynghyd a hynny, rhoddodd troed dde’r ciciwr Mattew Jarvis y Cymry mewn safle gref ar yr hanner (13 – 6). Ond llwyddodd yr Eidalwyr i lesteirio eu hymdrech yn nechrau’r ail, gyda chicio Alberto Chillon yn dod a nhw’n ôl o fewn pwynt.

Dau gais hwyr gan yr eilydd o faswr, Dean Gunter, a’r cefnwr Dan Fish seliodd y fuddugoliaeth i Gymru, ond byddant yn siomedig o fod wedi ildio’r ergyd olaf i’r Eidalwyr wrth i Gega groesi am gais olaf y gêm i wneud y sgôr yn fwy parchus.

Cymru dan-20: Dan Fish (Gleision); James Loxton (Gleision), Ben John (Gweilch), Scott Williams (Scarlets), Kristian Phillips (Gweilch); Matthew Jarvis (Gweilch); Gareth Davies (Scarlets); Trystan Davies (Scarlets) Rhys Williams (Gleision), Joe Rees (Tonmawr / academi’r Gweilch), James Thomas (Dreigiau), Macauley Cook (Gleision), Edward Siggery (Llanymddyfri), Josh Navidi (Gleision), Morgan Allen (Pontypŵl).

Eilyddion: Ieuan Davies (Crwydriaid Morgannwg), Dan Watchurst (Dreigiau),Rhys Jenkins (Dreigiau), Ben Thomas (Gweilch), Rhys Downes (Gleision), Steve Shingler (Scarlets), Dean Gunter (Gleision)