Mae’r cyn actor Coronation Street, Ian Roy Jones ( neu Bruce Jones) wedi addo gwneud ei orau i stopio yfed er mwyn achub ei briodas – wedi iddo gael ei wahardd rhag gyrru heddiw.
Roedd yr actor yn siarad ar ôl i Sandra, ei wraig ers 26 mlynedd roi tystiolaeth yn ei erbyn mewn Llys yn yr Wyddgrug heddiw.
Roedd Ian Roy Jones – sydd wedi chwarae cymeriad Les Battersby ers degawd yn y sebon ITV poblogaidd, yn cael ei gyhuddo o’i cham-drin yn ei ddiod.
Heddiw, fe wnaeth gyfaddef bachu llyw eu car Mercedes Dosbarth M oddi wrth ei wraig wrth i’r ddau ohonynt deithio hyd ffordd ddeuol brysur. Roedd Ian Roy Jones yn gweiddi y byddai’n lladd y ddau ohonynt.
Ar ôl cyfaddef gyrru’n beryglus a meddw, cafodd ei wahardd rhag gyrru a’i ryddhau ar fechnïaeth tan ei ddedfrydu’r mis nesaf.
“Problem alcohol”
“Mae Ian Roy Jones yn derbyn am y tro cyntaf fod ganddo broblem alcohol. Mae am geisio mynd i’r afael â’r broblem,” meddai ei gyfreithiwr tu allan i’r Llys.
Fe gafodd yr actor ei ryddhau ar fechnïaeth.