Bydd mwy o swyddi yn y diwydiant cyhoeddi yn fuan ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad ddweud bod arian ychwanegol wedi’i glustnodi ar gyfer swyddi golygyddion creadigol cyfrwng Cymraeg.

“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad pellach yma yn fawr iawn; mae’n newyddion ardderchog i’r byd cyhoeddi,’ meddai Elwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn credu bod y datblygiad hwn yn arwydd o hyder Llywodraeth y Cynulliad yn y fasnach lyfrau.

Hwb i’r ardaloedd gwledig

Maen nhw hefyd yn credu y bydd yn gymorth mawr i gryfhau isadeiledd y diwydiant ac i sicrhau swyddi mewn ardaloedd gwledig lle mae nifer o’r cyhoeddwyr.

“Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gallu sicrhau arian ychwanegol i awduron, gan gynorthwyo rhai o’n prif awduron i ysgrifennu llyfrau amrywiol ac apelgar sydd wedi cael croeso brwd gan y darllenwyr”, meddai Elwyn Jones.

“Mae’n gyfle yn awr i ni fuddsoddi yn yr ochr olygyddol er mwyn parhau i sicrhau deunydd o’r safon uchaf”, ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru.

‘Crefft golygydd yn bwysig’

“Mae crefft y golygydd mor bwysig wrth bontio rhwng yr awdur a’r cyhoedd – mae’n sicrhau llyfrau mwy llyfn a darllenadwy. Bydd y gweisg yn cyd-fuddsoddi yn y cynllun hwn er mwyn codi’r farchnad llyfrau Cymraeg i dir uwch eto”, meddai Myrddin ap Dafydd, Cadeirydd Cwlwm Cyhoeddwyr.

Fe ddywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, y bydd y golygyddion newydd yn “cyfrannu at wella ansawdd llyfrau, cynyddu’r gwerthiant a gwella profiad y darllenwyr”.