Mae’r trafodaethau rhwng cwmni awyrennau BA ac undeb Unite wedi methu – fe fydd y streiciau’n dechrau fory.

Ar ôl deuddydd a hanner o drafod, fe wahanodd Prif Weithredwr y cwmni a chyd-Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb a’r anghydfod rhyngddyn nhw mor chwerw ag erioed.

Ar un llaw, roedd Tony Woodley o undeb Unite yn dweud bod y cwmni eisiau “rhyfel” yn erbyn ei aelodau.

Ar y llaw arall, roedd Willie Walsh o BA’n cyhuddo arweinwyr yr undeb o wrthod mynd â chynnig “rhesymol” at eu haelodau.

Dechrau am chwech fory

O ganlyniad, fe fydd gweithwyr caban BA’n dechrau ar streic dridiau am chwech o’r gloch bore fory.

Mae’n golygu bod tua hanner teithiau BA tros y cyfnod hwnnw’n gorfod cael eu canslo ond mae’r cwmni’n mynnu bod gyda nhw drefniadau “cadarn” i gynnal y gweddill.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau y bydd yr holl staff sy’n streicio yn colli’r manteision o docynnau teithio rhad a gwobrwyon eraill.

Streic arall

Yn ôl Willie Walsh, roedd yna gynnig o flaen yr undeb heddiw ac roedd yn eu beio am wrthod cynnig arall rai dyddiau’n ôl.

Mae’r undeb wedi dweud eu bod yn fodlon ystyried hwnnw ond dyw BA ddim yn fodlon bellach oherwydd y bygythiad o streic.

Os na fydd datrys ar yr anghydfod yr wythnos nesa’, fe fydd streic bedwar diwrnod yn dechrau ar 27 Mawrth.