Mae bom wedi ffrwydro tu allan i swyddfeydd plaid adain dde eithafol yng Ngwlad Groeg.

Digwyddodd y ffrwydrad yn Athens tu allan i swyddfa plaid Chryssi Avgi, sy’n golygu Gwawr Euraidd yn iaith Groeg.

Roedd papur newydd lleol wedi derbyn rhybudd ynglŷn â’r ffrwydrad, a does dim adroddiadau fod anafiadau na difrod mawr yn sgil yr ymosodiad.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn, ond mae grwpiau milwriaethus adain chwith wedi ffrwydro nifer o safleoedd sy’n cael eu cysylltu â chyfoeth a grym y wladwriaeth yn y wlad, dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’n debyg fod grwpiau adain chwith ac anarchwyr yn gwrthdaro’n gyson efo eithafwyr adain dde yng Ngwlad Groeg.

Llun : baner Chryssi Avgi