Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa wedi dweud ei fod wedi gorfod gweithio’n galed i godi ysbryd ei chwaraewyr yr wythnos yma wrth iddynt baratoi i wynebu QPR yfory.

Bydd Sousa yn dychwelyd i Loftus Road am y tro cyntaf ers iddo golli ei swydd yno yn agos i flwyddyn yn ôl.

Ond fe ddywedodd y gŵr o Bortiwgal bod y golled ddadleuol i West Brom wedi ei gwneud hi’n anodd paratoi’r chwaraewyr ar gyfer y penwythnos.

“Mae wedi bod yn anodd codi ysbryd y chwaraewyr yn dilyn y gêm”, meddai Sousa.

“Doedden nhw ddim wedi cymryd y canlyniad hynny’n dda iawn. Roedden nhw’n rhwystredig ac yn fwy isel na’r disgwyl”

“Ond rwyf wedi dweud na allwn ni fforddio edrych ‘nôl ar yr holl benderfyniadau sydd wedi mynd yn ein herbyn- mae angen i ni fod yn gryf”

“Ond mae pêl droed wastad yn rhoi cyfle i symud ‘mlaen yn gyflym o unrhyw siom. Mae gennym ni gyfle yn erbyn QPR dydd Sadwrn ac rwy’n gwybod bod y bois yn barod am y gêm”, ychwanegodd Paulo Sousa.

‘Taro ‘nôl’

Mae chwaraewr rhyngwladol Cymru, David Cotterill wedi adleisio geiriau Paulo Sousa ac yn pwysleisio’r pwysigrwydd o daro ‘nôl yn syth.

“Dyw un pwynt allan o chwech ddim yn ddelfrydol, felly mae’n bwysig i ni daro ‘nôl”, meddai Cotterill.

“Mae ychydig o fwlch rhyngom â Caerdydd a rhai o’r clybiau eraill, felly mae’r cyfan lan i ni.”

“Ry’ ni gyd yn gyffrous iawn ein bod yn rhan o’r ras am ddyrchafiad ac yn ffyddiog y gallwn ni lwyddo,” ychwanegodd David Cotterill.