Mae trafodaethau munud olaf yn cael eu cynnal rhwng pennaeth cwmni awyrennau BA ac arweinydd undeb Unite yn y gobaith o atal streic dros y Sul.
Roedd Prif Weithredwr BA, Willie Walsh, a Tony Woodley o undeb Unite wedi cwrdd ym mhencadlys y TUC yn Llundain wrth i ddyddiad y streic gynta’ agosáu.
Fe adawodd Tony Woodley y trafodaethau i gynnal cyfarfod gydag aelodau staff BA ym mhencadlys Unite gerllaw, gan ddweud: “R’yn ni’n cyfarfod ac r’yn ni’n siarad”.
Ar ôl tuag awr, fe aeth yn ôl i gynnal rhagor o drafodaethau gyda Willie Walsh. Mae’r streic i fod i ddechrau ddydd Sadwrn.
Fe ddywedodd Tony Woodley y byddai’r streiciau yn cael eu hatal pe bai BA yn ail gyflwyno telerau a oedd wedi eu cynnig ac yna’u dileu yr wythnos ddiwetha.
Mae’r trafodaethau newydd yn cynnig llygedyn o obaith y bydd y streic dri diwrnod yn cael ei atal.