Mae cwest wedi clywed sut bu farw bachgen pump oed o orllewin Cymru ar ôl i garreg fynd yn sownd ym mheiriant ei feic modur bach.
Fe fu farw Jake Wilson o Gaerfyrddin yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w ben wrth yrru’r beic ar safle mart y dref yn Nant y Ci.
Roedd tad Jake Wilson, Robert, wedi mynd â’r bachgen a’i frawd Connor, deg oed, i’r maes ar 27 Rhagfyr y llynedd.
Roedd Jake Wilson yn gyrru’r beic modur ar gyflymder o 25 milltir yr awr pan sylweddolodd ei dad bod rhywbeth wedi mynd o’i le ar y peiriant.
Yn ôl y Ditectif Ringyll Neil Jenkins o Heddlu Dyfed Powys fe welodd y tad y beic yn cyflymu ac yn mynd i gyfeiriad wal. Er iddo ef a’i fab arall geisio rhedeg ar ôl y beic roedden nhw wedi methu ei ddal.
‘Gwisgo helmed’
Dywedodd Neil Jenkins bod Jake Wilson yn feiciwr profiadol a oedd yn aelod o Glwb Beic Modur K-Quads a’i fod yn gwisgo helmed a dillad priodol.
Roedd Jake Wilson wedi gyrru’r beic ddeg gwaith cyn y ddamwain ac roedd wedi ymweld â maes y mart dair gwaith cyn hynny.
Er nad oedd dim o’i le ar y beic, fe ddaeth archwilwyr o hyd i garreg fechan – y gred yw ei bod wedi mynd yn sownd yn y piston.
Fe eglurodd y Ditectif Ringyll y gallai hynny fod wedi gwneud i’r sbardun sticio.
Fe gofnododd y Crwner John Owen reithfarn o farwolaeth trwy ddamwain.