Mae yna gwestiynau difrifol yn codi tros allu pobol i wneud cwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus, yn sgil sgandal llygredd Plas Madoc.
Fe ddaeth yn amlwg bod y wraig a ddatgelodd y llygredd wedi cwyno wrth brif swyddfa rhaglen Cymunedau’n Gyntaf heb gael ymateb.
Roedd ei chwynion yn cael eu hanfon yn ôl at swyddogion y Bartneriaeth ym Mhlas Madoc ger Wrecsam – yr union bobol yr oedd hi’n cwyno yn eu herbyn.
Mae hi bellach yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r llygredd ei hun ac i’r ffordd y cafodd ei chwyn ei thrin.
Dim ymyrryd
Roedd y Comisiwn Elusennau hefyd wedi gwneud yn glir na allen nhw ymyrryd – er bod Cymunedau’n Gyntaf Plas Madoc yn elusen – a’r un oedd yr ymateb gan Lywodraeth y Cynulliad ar y pryd.
Yn ôl Mandy Bostwick, y weithrwraig iechyd a wnaeth y cwynion, roedd hynny cyn iddi gasglu tystiolaeth ysgrifenedig, pan oedd hi’n dechrau ceisio cwyno.
Fe ddywedodd wrth Golwg360 ei bod wedi dechrau mynd yn amheus o’r Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf ym Mhlas Madoc pan gafodd ei thalu mewn arian parod a chael trafferth i gael derbynneb.
Dychryn
“Mae darllen yr adroddiad yn eich dychryn chi,” meddai. “Mae’r ymddiriedaeth rhwng y bobol a’r Bartneriaeth; fe fydd hi’n cymryd gwaith caled i’w ail sefydlu. Mae gwirioneddol angen yr arian yn yr ardal yma.
“Mae yna ddiffyg rheolaeth a bod yn atebol, nid yn unig ym Mhlas Madoc ond trwy Cymunedau’n Gyntaf ac yn Llywodraeth y Cynulliad. Mae angen ymchwiliad cyhoeddus.”
Roedd yr AC rhanbarthol lleol, Janet Ryder, hefyd yn galw am ymchwiliad ar ôl iddi ddod yn amlwg bod Cyngor Wrecsam wedi tynnu sylw’r Llywodraeth yn 2003 at amheuon am Blas Madoc.
“Mae methi9ant y Llywodraeth Lafur bryd hynny i holi am gynllun Cymunedau’n Gyntaf yn codi cwestiwn sylfaenol – fedrwn ni fod yn sicr mai dim ond un Plas Madoc sydd yna?”
Gweinidog yn amddiffyn y rhaglen
Heddiw, fe fu’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant, yn amddiffyn y rhaglen gyfan.
Fe ddywedodd wrth bwyllgor o Aelodau Cynulliad nad oedd modd barnu’r cyfan oherwydd gwendidau un. Nod y cynllun, sy’n cynnwys 157 o Bartneriaethau lleol, yw helpu’r cymunedau mwya’ di fraint yng Nghymru.
“Roedd rhaid i rywun gymryd safiad a gwneud rhywbeth ac ryden ni’n gwneud hynny trwy brosiectau Cymunedau’n Gyntaf, “ meddai.
Doedd yr hyn ddigwyddodd ym Mhlas Madoc ddim yn dderbyniol, meddai, ac roedd rhaid i’r rhaglen gael ei rheoli yn unol â safonau arferol bywyd cyhoeddus.
Rhagor am y stori fan hyn
Llun: Carl Sargeant – amddiffyn y rhaglen