Mae llyfrgelloedd dros y byd yn pryderu y bydd gwaith llenorion o bwys yn mynd ar goll wrth i dechnoleg newid.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ceisio dod o hyd i ffordd o ddiogelu gwaith llenorion at y dyfodol.

Mae hynny’n cynnwys negeseuon a newidiadau i lawysgrifau.

Llai dibynadwy

Gan nad yw cyfrifiaduron mor ddibynadwy â phapur ac inc, mae angen sicrhau bod cofnodion, llythyron a nodiadau ymchwil yn cael eu cadw’n ddiogel.

Dros y ddwy flynedd nesaf, fe fydd swyddog yn Archif Lenyddol y Llyfrgell yn dysgu am arferion awduron Cymru er mwyn sicrhau nad yw dogfennau pwysig yn mynd ar goll.

“Un her amlwg yw e-bost a gohebiaeth,” meddai Ifor ap Dafydd sydd wedi bod yn holi ugain o awduron am eu harferion cyfrifiadurol.

“Er bod pawb yn prisio e-bost yn uchel, yn meddwl ei fod e’n bwysig iawn, dim ond un o 16 oedd yn gwneud rhywbeth i’w arbed e.”

Kate a Saunders – ar e-bost?

Roedd Ifor ap Dafydd yn sôn am lythyrau oedd wedi eu cadw rhwng dau o lenorion mwya’ Cymru – Kate Roberts a Saunders Lewis.

Yn ôl Ifor ap Dafydd, doedd yna ddim sicrwydd y byddai awduron tebyg yn cadw negeseuon e-bost.

Pryder arall yw bod olion llawysgrifen llenorion yn prinhau. Yn rhai o lythyrau Saunders Lewis mae cryndod y llawysgrifen yn awgrymu cryn dipyn am ei gyflwr corfforol ar y pryd.

Gweddill y stori yn Golwg, Mawrth 18.