Fe allai cannoedd o filoedd o weithwyr suful gynnal streic genedlaethol ar y diwrnod y bydd y Canghellor yn cyhoeddi’r Gyllideb.
Dyma beth mae undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, y PCS, yn honni wrth iddyn nhw barhau i brotestio yn erbyn bwriad y Llywodraeth i newid amodau diswyddo.
Fe fyddai cynnal y brotest ar ddydd Mercher, 24 Mawrth, yn golygu y byddai’n rhaid i’r Canghellor, Alistair Darling, groesi’r llinell biced ar ei ffordd o’r Trysorlys i Dŷ’r Cyffredin i roi ei araith.
Roedd gweithwyr eisoes wedi gweithredu’n ddiwydiannol am 48 awr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl y bydd streic genedlaethol ddydd Gwener hefyd.
“Gwrthod trafod”
Mae’r PCS wedi beirniadu’r Llywodraeth am ”wrthod” trafod gyda nhw. Ond mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod wedi siomi fod yr undeb yn parhau i wrthod cytundeb “sy’n deg i weithwyr a threthdalwyr,” y mae undebau eraill eisoes wedi ei dderbyn.
Er bod rhai gweision suful eisoes wedi derbyn yr amodau newydd, mae’r undeb yn honni y bydd eu haelodau’n colli un rhan o dair o’u buddiannau.
Mae’r Llywodraeth yn honni mai’r bwriad yw arbed tua £500 miliwn, ond mae’r gweithwyr yn eu cyhuddo o baratoi’r ffordd i gael gwared ar filoedd o swyddi ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.