Mae’r modd y mae British Airways yn mynd ati i alluogi teithwyr i hedfan yn ystod streic gan weithwyr caban, yn tanseilio safonau diogelwch.

Daw’r honiad gan undeb Unite, sy’n mynnu fod BA yn “brysio” i hyfforddi gwirfoddolwyr i gymryd lle gweithwyr caban fydd yn mynd ar streic dros y penwythnos.

Gofyn am archwiliad

Mae Unite, sy’n cynrychioli’r gweithwyr, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yr Arglwydd Adonis, yn gofyn iddo gynnal archwiliad brys.

Mae Unite hefyd wedi codi amheuon ynglŷn â nifer y gwirfoddolwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant, ac ynglŷn ag os ydyn nhw wedi cydymffurfio â rheolau fetio a diogelwch.

Ond mae BA wedi dweud bod digon o wirfoddolwyr wedi cael eu hyfforddi’n llawn, ac na fydden nhw byth yn tanseilio rheolau diogelwch.

Streiciau

Bwriad gweithwyr caban BA yw streicio am dridiau dros y penwythnos nesa,’ ac yna am bedwar diwrnod arall ddiwedd y mis.

Maen nhw’n anhapus ynglŷn â bwriad y cwmni i newid amodau gwaith a chyflogau, a thorri’n ôl ar nifer swyddi.

Mae BA wedi honni y bydd 60% o’u cwsmeriaid yn gallu hedfan yn ystod streiciau’r gweithwyr caban.