Mae’r Seintiau Newyddion dri phwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo Porthmadog 5-0 yn Park Hall.
Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi’r pwysau’n ôl ar Lanelli, sy’n ail yn y gynghrair, ond mae ganddyn nhw dair gêm wrth gefn i’w chwarae, o gymharu â’r Seintiau.
Sharp yn serennu
Chris Sharp sgoriodd y ddwy gôl gyntaf i’r Seintiau neithiwr wedi hanner awr, gyda John McKenna yn ychwanegu un arall yn fuan wedyn.
Yn yr ail hanner, fe sgoriodd Jamie Wood a Tommy Holmes i sicrhau buddugoliaeth 5-0 i’r tîm cartref.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth wedi cymryd cam arall tuag at sicrhau’r trydydd safle yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth 2-1 gartref yn erbyn Bangor.
Chwaraewyr ar fenthyg oedd y sgorwyr – Ryan Fraughan o Tranmere a chwaraewr canol cae’r Seintiau Newydd, Conall Murtagh.
Roedd Aberystwyth ar y blaen wedi gôl Fraughan yn yr hanner cyntaf. Ond ‘nôl daeth Bangor i unioni’r sgôr wedi chwe munud o’r ail hanner ar ôl i’r amddiffynnwr, Aneurin Thomas ganfod cefn ei rwyd ei hun.
Ond llai na deg munud wedi gôl Bangor, fe sgoriodd Murtagh i roi’r fantais i Aberystwyth.
Fe fu’n rhaid i Aberystwyth ddibynnu ar sawl arbediad gwych gan eu golwr, Steven Cann.
Castell-nedd
Mae gobeithion Castell-nedd o gystadlu yn Ewrop y tymor nesaf wedi cael ergyd ar ôl iddyn nhw golli 2-0 i Gei Connah.
Mae’r golled yn gadael Castell-nedd yn y chweched safle – pedwar pwynt y tu ôl i Bort Talbot, sy’n bumed.