Mae protestwyr yng Ngwlad Tai wedi taflu galwyni o waed mewn bagiau plastig at dŷ Prif Weinidog y wlad.

Dyma’r cam diweddaraf gan brotestwyr y ‘Crysau Coch’ wrth iddyn nhw alw ar y Prif Weinidog, Abhisit Vejjajiva, i ddiddymu Senedd y wlad a chynnal etholiadau o’r newydd.

Taflu gwaed

Roedd y protestwyr wedi gorymdeithio gyda’r gwaed – sydd wedi cael ei dynnu yn arbennig o gyrff ymgyrchwyr – at dŷ Abhisit Vejjajiva, mewn ardal foethus o Bangkok

Cafodd yr orymdaith ei rhwystro gan yr heddlu, ond gadawyd rhai o’r protestwyr drwodd, ac fe aethon nhw ati i daflu bagiau plastig yn llawn gwaed at y tŷ.

Roedd y protestwyr eisoes wedi tywallt galwyni o waed o flaen giatiau pencadlys y Llywodraeth ddoe.

Dim cyfaddawd

Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi bod yn aros yn adeilad pencadlys y fyddin, ac wedi bod yn gadel y ddinas ar dripiau ers i’r protestio ddechrau.

Nid yw wedi awgrymu ei fod am gyfaddawdu efo gofynion y Crysau Coch, ond mae wedi dweud ei fod yn barod i drafod gyda nhw.


100,000

Mae tua 100,000 o ymgyrchwyr wedi bod yn protestio yn Bangkok ers y penwythnos.

Maen nhw am i etholiadau newydd gael eu cynnal oherwydd eu cred fod Abhisit Vejjajiva wedi cipio grym gyda chefnogaeth y fyddin ac elît y wlad.

Maen nhw am weld y cyn-Brif Weinidog, Thaksin Shinawatra, yn dychwelyd i’r swydd – cafodd Thaksin Shinawatra ei ddisodli gan y fyddin yn 2006 yn dilyn honiadau o lygredd o fewn ei lywodraeth.

Unol Daleithiau

Mae rhai protestwyr wedi bod yn sefyll o flaen Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau mewn ymdrech, yn ôl arweinwyr yr ymgyrch, i danlinellu annilysrwydd y llywodraeth i’r gymuned ryngwladol.