Mae’r bygythiad o streic gan staff ym mhorthladd Aberdaugleddau wedi dod i ben, ar ôl i fosys a gweithwyr daro bargen newydd ynglŷn ag amodau pensiwn.

Roedd tua 50 o beilotiaid morol y porthladd yn anhapus gyda newidiadau i’w cynllun pensiwn.

Byddai streic wedi effeithio ar y tanceri olew a nwy sy’n defnyddio’r porthladd.

Trafod yn llwyddo

Fe gyhoeddodd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau heddiw bod y trafodaethau gydag undeb Unite wedi bod yn llwyddiannus, ac na fyddai’r peilotiaid yn gweithredu’n ddiwydiannol.

“Rwy’n falch na fydd yna weithredu diwydiannol mewn cyfnod o ansicrwydd i’r economi ac i nifer o’n cwsmeriaid,” meddai Alec Don, Prif Weithredwr Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.

“Un o fy mlaenoriaethau i yw ail-sefydlu partneriaeth gref rhwng yr awdurdod a’r staff morol, sy’n chwarae rhan allweddol yn sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi yn nyfodol y porthladd.”