Mae protestwyr yng Ngwlad Thai wedi tywallt galwyni o waed o flaen pencadlys llywodraeth y wlad yn Bangkok heddiw.

Yn ôl arweinyddion protestwyr y Crysau Coch, fe fydd mwy o waed yn cael ei dywallt o flaen safleoedd eraill, gan gynnwys tŷ’r Prif Weinidog, os na fydd etholiadau seneddol yn cael eu cynnal.

Camerâu yn ffilmio

Fe ddefnyddiodd y Crysau Coch waed oedd wedi cael ei dynnu yn arbennig o gyrff rhai o’r ymgyrchwyr, ac fe ganiataodd yr heddlu iddyn nhw gerdded at glwydi gwyn y pencadlys tra bod camerâu teledu yn ffilmio’r digwyddiad.

Roedd y llywodraeth wedi paratoi ar gyfer hyn. Funudau’n unig ar ôl y ‘tywallt’ gwaed, fe ddaeth tîm o bobol yn gwisgo cotiau gwyn, masgiau a menig rwber, i lanhau’r safle gyda dŵr.

Roedd awdurdodau iechyd, yn ogystal â’r Groes Goch, wedi rhybuddio fod y brotest yn bygwth gwasgaru clefydau fel HIV, AIDS a Hepatitis, pe bai gwaed wedi ei heintio yn dod i gysylltiad â phobol iach.

Y Crysau Coch

Mae tua 100,000 o ymgyrchwyr ‘Crysau Coch’ wedi bod yn protestio yn Bangkok ers y penwythnos diwethaf, gan alw ar i’r Prif Weinidog, Abhisit Vejjajiva, ddiddymu’r Senedd a chynnal etholiadau newydd.

Maen nhw am weld y cyn-Brif Weinidog, Thaksin Shinawatra, yn dychwelyd i’r swydd. Maen nhw’n honni fod Abhisit Vejjajiva wedi cipio grym gyda chefnogaeth y fyddin ac elît y wlad.

Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar y protestwyr i weithredu’n heddychlon, ac mae wedi dweud hefyd ei fod yn barod i drafod.