Tom Prydie fydd y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli Cymru ar ôl i Warren Gatland ei ddewis i ddechrau’r gêm yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn.

Mae’r asgellwr yn cymryd lle chwaraewr y Gleision, Leigh Halfpenny, ac mae’r hyfforddwr wedi gwneud pump newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos.

Mae Mike Phillips yn ôl yn safle’r mewnwr, gyda Stephen Jones yn cadw ei le fel maswr.

Mae Gethin Jenkins yn y rheng flaen, ynghyd â Matthew Rees ac Adam Jones, gan adfer rheng flaen lwyddiannus y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yr haf diwethaf.

Mae Martyn mas

Does dim lle i Martyn Williams yn y garfan gyda Warren Gatland yn ffafrio Sam Warburton yn y rheng ôl.

Mae’r capten, Ryan Jones hefyd yn dychwelyd i’r rheng ôl wedi anaf, gyda Gareth Delve yn gorfod bodloni i fod ar y fainc.

Carfan Cymru

Lee Byrne, Tom Prydie James Hook, Jamie Roberts, Shane Williams, Stephen Jones, Mike Phillips.

Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Bradley Davies, Luke Charteris, Jonathan Thomas, Sam Warburton, Ryan Jones.

Eilyddion – Huw Bennett, Paul James, Ian Gough, Gareth Delve, Dwayne Peel, Andrew Bishop, Tom Shanklin.