Mae’r bygythiad am streic ar rwydwaith drenau Underground Llundain wedi dod gam yn nes heddiw.
Mae hyn ar ôl i undeb dylanwadol osod dyddiad cau ynglŷn â chael sicrwydd am swyddi, diogelwch ac amodau gwaith ar gyfer gweithwyr y rhwydwaith.
Mae undeb y Rail Maritime and Transport Union, wedi dweud fod gan y cwmni sy’n cynnal a chadw rhai o linellau’r Underground, Tube Lines, tan ddydd Iau i sicrhau na fydd yna doriadau.
“Dim diswyddiadau gorfodol”
Mae Tube Lines wedi dweud na fydd yna ddiswyddiadau gorfodol yn sgil toriadau.
Mae’r undeb wedi dweud fod y toriadau arfaethedig yn peryglu troi’r Underground yn “baradwys” i fygwyr.