Mae Aelod Seneddol Llafur dros Dde Middlesbrough a Dwyrain Cleveland wedi ei ganfod yn farw.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Ashok Kumar, 53, yn ei gartref yn Middlesbrough, ac mae llefarydd ar ran yr heddlu yn dweud bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un “sydyn, ddamweiniol”.

Colled “drasig”

“Fe gafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Canberra, Marton, yn Middlesbrough, am 12.30 o’r gloch heddiw, dydd Llun 15 Mawrth,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Cleveland.

“Ar ôl mynd i mewn i’r adeilad, fe ddaeth swyddogion o hyd i gorff dyn yn ei 50au. Fe ddywedodd parafeddygon ei fod wedi marw ar y safle.”

Meddai’r AS Llafur Syr Stuart Bell, oedd yn cynrychioli etholaeth arall yn Middlesbrough:

“Mae marwolaeth Ashok Kumar ac yntau mor ifanc yn drasig.”