Mae’r Prif Weinidog Gordon Brown o’r farn nad oes modd cyfiawnhau bwriad gweithwyr caban British Airways i fynd ar streic.

Mae’n dweud fod y bwriad yn un “gresynus” a ddylai gael ei atal.

Daeth ei sylw yn ystod cyfweliad ar raglen Radio 4, Woman’s Hour, lle dywedodd hefyd na fyddai’r streic yn gwneud unrhyw les i’r cwmni na’r gweithwyr. “Dydi o yn bendant ddim er lles y wlad.”

Mwy o siarad, gobeithio 

Dywedodd Gordon Brown ei fod yn gobeithio y byddai datblygiadau yn y stori heddiw a fyddai’n caniatáu i reolwyr BA a’r undebau i ail-ddechrau trafod.

Bwriad gweithwyr caban BA yw streicio am dridiau dros y penwythnos nesa,’ ac yna am bedwar diwrnod arall ddiwedd y mis.

Maen nhw’n anhapus ynglŷn â bwriad y cwmni i newid amodau gwaith a chyflogau, a thorri’n ôl ar nifer swyddi.