Mae gobaith y bydd David Beckham – yn ôl ei lefarydd – yn gwella’n “gyflym ac yn llawn” ar ôl torri gewyn ei Achilles neithiwr.

Ond mae rheolwr tîm pêl-droed Lloegr, Fabio Capello, wedi dweud ei bod hi’n debygol na fydd yr asgellwr yn gallu chwarae yng Nghwpan y Byd fis Mehefin.

Dim bygythiad i’w yrfa

Roedd awgrymiadau fod yr anaf yn bygwth gyrfa bêl droed y chwaraewr 34 oed, ond mae’r meddyg sy’n mynd i fod yn ei drin, Sakari Orava, wedi dweud y bydd yn gwella’n llawn.

Mae David Beckham yn mynd i weld yr arbenigwr yn y Ffindir, ac mae disgwyl iddo gael triniaeth heddiw.

Dim record i Beckham

Digwyddodd yr anaf tra roedd yn rhedeg ar ôl pêl rydd i’w dim AC Milan nos Sul.

Roedd David Beckham wedi gobeithio mai ef fyddai’r chwaraewr cyntaf o Loegr i ymddangos mewn pedair pencampwriaeth Cwpan y Byd.

Llun: (Rebecca Naden/PA Wire)